Request for an Expression of Interest for Electoral Commission Board Effectiveness Review 2023/24
key details
| Category (CPV) | 66000000 +1 more |
|---|---|
| Deadline | 18 May 2023 |
| Procedure | limited |
| OCID | ocds-kuma6s-131323 |
description
NODER: Nid oes angen ymateb tendr ffurfiol i'r cais hwn am Ddatganiad o Ddiddordeb, naill ai fel cynnig Technegol neu fel pris a gyflwynir.Y CYFAN SYDD ANGEN I CHI EI WNEUD YW CADARNHAU BOD DIDDORDEB GENNYCH MEWN CAEL EICH YSTYRIED AR GYFER UNRHYW WAHODDIAD DILYNOL I DENDRO DRWY DDEFNYDDIO'R MANYLION CYSWLLT I GWSMERIAID AR DUDALEN 6, erbyn 18/05/2023.Pwy ydym ni a beth rydym yn ei wneudY Comisiwn yw'r corff annibynnol sy'n goruchwylio etholiadau ac yn rheoleiddio cyllid gwleidyddol yn y DU. Rydym yn gweithio i hyrwyddo hyder y cyhoedd yn y broses ddemocrataidd a sicrhau ei huniondeb.Mae Bwrdd y Comisiwn yn cynnwys deg comisiynydd a gaiff eu henwebu â buddiannau gwahanol sy'n cynnwys cenhedloedd y DU ac enwebiadau gan bleidiau gwleidyddol. Bydd y Bwrdd yn cyfarfod ddeg gwaith y flwyddyn, a bydd y Tîm Gweithredol yn bresennol yn ogystal â Chynghorydd Annibynnol i'r Bwrdd ar Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant. Bydd y Bwrdd yn cynnal rhagor o ddigwyddiadau anffurfiol ledled y wlad er mwyn canolbwyntio'n fanwl ar faterion perthnasol.Mae gan y Bwrdd ddau bwyllgor, sef y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg a'r Pwyllgor Tâl ac Adnoddau Dynol, a chaiff y ddau eu cadeirio gan Gomisiynydd.Mae'r Tîm Gweithredol yn cynnwys y Prif Weithredwr a phedwar Cyfarwyddwr, yn ogystal â'r Cwnsler Cyffredinol (Ysgrifennydd y Bwrdd), a fydd yn bresennol.Cyfnod yr adolygiad hwnBwriedir dechrau'r adolygiad ddechrau'r haf yn 2023, gydag adroddiad interim ym mis Hydref, a'r adroddiad terfynol ym mis Mawrth 2024Sail yr Adolygiad hwnMae gan y Comisiwn Etholiadol ymrwymiad parhaus i wella ac, fel rhan o hyn, byddwn yn ymgymryd ag adolygiad mewnol o berfformiad bob blwyddyn yn ogystal ag archwiliad o sgiliau a buddiannau comisiynwyr. Mae hyn yn rhoi'r cyfle i ni nodi meysydd gwella.Cwmpas y gwaithEr mwyn galluogi'r Comisiwn i feithrin gwell dealltwriaeth o'n cryfderau, ein gwendidau a sut y gallwn weithio'n well, mae'r Bwrdd wedi cytuno y dylid cynnal adolygiad allanol annibynnol o effeithiolrwydd y Bwrdd.Mae gan y Cadeirydd a'r Prif Weithredwr weledigaeth “un tîm” ar gyfer y Comisiwn i gynnwys y Bwrdd, y Tîm Gweithredol a'r staff.Rhagwelwn y bydd yr adolygiad o effeithiolrwydd hwn yn canolbwyntio ar y canlynol:• Dealltwriaeth y Bwrdd o'r sefydliad a'i randdeiliaid amrywiol, ei gyfeiriad strategol a'i amgylchedd gweithredol• Gallu'r Bwrdd i bennu amcanion strategol clir a mesur perfformiad y sefydliad yn erbyn yr amcanion hynny, gan gynnwys gallu'r Bwrdd i sganio'r gorwel a rheoli risg, gallu'r Bwrdd i gydweithio ac fel un tîm gyda'r Tîm Gweithredol a'r staff, gan gynnwys gallu'r Bwrdd i gael y gorau o'r Tîm Gweithredol a gallu'r Tîm Gweithredol i gefnogi'r Bwrdd yn effeithiol• Ymddygiadau Comisiynwyr wrth fynegi safbwyntiau a gwrando ar safbwyntiau eraill• Ymrwymiad Comisiynwyr i fudd pennaf y sefydliad, megis ei ymddygiadau a'i werthoedd craiddMethodoleg y gwaith adolyguDisgwylir y bydd y fethodoleg ar gyfer adolygu effeithiolrwydd y Bwrdd yn cynnwys y canlynol:• Yn amodol ar ofynion peidio â datgelu: Archwilio dogfennaeth llywodraethu, cofnodion ac adroddiadau'r Bwrdd a'r Pwyllgorau.• Yn amodol ar ofynion peidio â datgelu: Arsylwi ar weithrediadau cyfarfodydd Bwrdd y Comisiwn a'r pwyllgorau.• Cyfweliadau (grŵp a/neu unigol) ag aelodau'r Bwrdd, aelodau'r Tîm Gweithredol a staff ehangach y ComisiwnGweithgarwch arall y cytunir ei fod yn angenrheidiol er mwyn llunio asesiad ystyrlonStrwythur adroddiadauMae'r Bwrdd yn disgwyl y bydd adroddiad mewnol interim ar yr adolygiad o effeithiolrwydd y Bwrdd yn cael ei ddarparu i'r Cadeirydd a'r Prif Weithredwr. Bydd hyn yn cynnig cyfle i roi adborth i awduron yr adroddiad ac eglurhad pan fo angen.Dylai'r adroddiad interim gynnwys y prif adrannau canlynol:• Crynodeb Gweithredol: Bydd disgwyl i'r adran hon roi crynodeb clir a hygyrch o'r canfyddiadau a'r argymhellion• Ffeithiau: Bydd disgwyl i'r adran hon roi data ar bob agwedd fel y disgrifir yng Nghwmpas y Gwaith• Dadansoddiad: Bydd disgwyl i'r adran hon roi dadansoddiad manwl o'r data a gasglwyd a dangos cydberthnasau rhwng y setiau data amrywiol• Asesiad: Bydd disgwyl i'r adran hon roi trosolwg o ba brosesau sy'n gweithio'n dda a lle y gellir datblygu; dylai'r asesiad fod yn seiliedig ar yr adrannau ‘Ffeithiau’ a ‘Dadansoddiad’ a chyfeirio atynt• Argymhellion: Bydd disgwyl i'r adroddiad roi argymhellion cyraeddadwy, amserol, mesuradwy, penodol, uchelgeisiol a synhwyrol (CAMPUS) ar ffyrdd o wella effeithiolrwydd Bwrdd y Comisiwn• Yr Adroddiad Terfynol fydd cynnyrch terfynol yr adolygiad o effeithiolrwydd y Bwrdd, a fydd yn cynnwys canfyddiadau a dadansoddiad yr Adroddiad Asesu gan ddarparu argymhellion CAMPUS• Crynodeb Gweithredol: Bydd disgwyl i'r adran hon roi crynodeb clir a hawdd ei ddeall o'r canfyddiadau a'r argymhellion• Ffeithiau: Bydd disgwyl i'r adran hon roi data ar bob agwedd a ddisgrifir yn yr adran Cwmpas y Gwaith uchod• Dadansoddiad: Bydd disgwyl i'r adran hon roi dadansoddiad manwl o'r data a gasglwyd, a dangos cydberthnasau rhwng y setiau data amrywiol a chyfeirio'n ôl at yr adroddiad interim yn ôl y gofyn• Asesiad: Rhaid i'r adran hon roi trosolwg o ba agweddau ar y Bwrdd sy'n gweithio'n dda, o fewn y weledigaeth un tîm, a lle gellir datblygu Dylai'r asesiad fod yn seiliedig ar yr adrannau ‘Ffeithiau’ a ‘Dadansoddiad’ a chyfeirio'n ôl at yr adroddiad interim yn ôl y gofyn• Argymhellion: Bydd disgwyl i'r adroddiad gynnig argymhellion CAMPUS ar ffyrdd o wella effeithiolrwydd Bwrdd y Comisiwn, o fewn y weledigaeth o ddatblygu un tîmAmserlen y ProsiectPennwyd y dyddiadau canlynol fel cerrig milltir posibl ar gyfer amserlen y prosiect. Gall y Comisiwn addasu neu newid yr amserlen hon ar unrhyw adeg, fel y bo angen.Digwyddiad DyddiadArsylwi ar gyfarfod Bwrdd y Comisiwn 26 Medi 2023Arsylwi ar gyfarfod y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg 25 Medi 2023Arsylwi ar gyfarfod y Pwyllgor Tâl ac Adnoddau Dynol 21 Medi 2023I'w gyflawni DyddiadYr Adroddiad Interim Hydref 2023Yr Adroddiad Terfynol Mawrth 2024Canllawiau ar ddarparu Datganiad o DdiddordebNoder y gall y meini prawf uchod newid wrth i unrhyw Wahoddiad i Dendro posibl gael ei ddatblygu.Hawl i ganslo neu amrywio'r Datganiad o Ddiddordeb hwnCeidw'r Awdurdod yr hawl i wneud y canlynol:- Canslo'r Datganiad o Ddiddordeb hwn, neu ran ohono, ar unrhyw gam ac ar unrhyw adeg;- Diwygio'r Datganiad o Ddiddordeb, rhoi eglurhad, ychwanegu ato neu dynnu'r datganiad cyfan, neu unrhyw ran ohono, yn ôl ar unrhyw adeg.Manylion cyswllt i gwsmeriaid ar gyfer y Datganiad o DdiddordebEnw: Paul Stringer, Uwch-gynghorydd CaffaelRhif ffôn: 020 7271 0698Cyfeiriad e-bost: Procurement@electoralcommission.org.ukNOTE: To register your interest in this notice and obtain any additional information please visit the Sell2Wales Web Site at https://www.sell2wales.gov.wales/Search/Search_Switch.aspx?ID=131323.
Contact Paul Stringer for copy of Request for Expression of Interest for Electoral Commission Board Effectiveness Review 2023/24 in Welsh - pstringer@electoralcommission.org.uk(WA Ref:131323)
documents
Documents are linked, not mirrored. They are served by the publishing authority and may require registration.
more from The Electoral Commission
- Political Finance Research · 9 Oct 2025
- Expression of interest – Improving democratic engagement in Wales · 6 Oct 2025
- Welsh Language Translation Services / Gwasanaeth Cyfieithu Iaith Gymraeg · 16 Apr 2024
- Internal Audit Expression of Interest · 12 Jun 2023
- Youth Voice 2023 Expression of Interest · 5 Jun 2023
- Expression of Interest - Cloud Hosted HR System · £200,000 · 19 Dec 2022
- Advertising, Media Planning and Media Buying - Expression of Interest · 18 Jul 2021
all contracts from this buyer →
similar contracts awarded
Other awarded contracts in the same category. Useful for seeing who normally wins this kind of work, and at what value.
- Bill Payments · South Tyneside Borough Council · £267,985
- Award of Engagement and Voting Services using Further Competition CT1655 · The City of Edinburgh Council · £630,000
- Insurance Claims Handling Legal Services · Sunderland City Council · £240,000
- Insurance Services · Suffolk County Council · £6,627,500
- Childcare Voucher Scheme · United Lincolnshire Teaching Hospitals NHS Trust · £63,744
- Electronic Payment Services Apr26 - Stoke on Trent City Council - awarded · NORTHERN HOUSING CONSORTIUM LIMITED · £210,092
- Early Supplier Payment · The Royal Borough of Kingston upon Thames · £660,000
- North Northamptonshire Council - Electronic Payment Services · North Northamptonshire Council · £122,450
source
Published on Sell2Wales. Contact details for named individuals are not reproduced on this site.